Tirlunio a Bioamrywiaeth

Mae’r safle wedi bod yn lled segur ers blynyddoedd lawer ac mae’n anochel y bydd y broses ailddatblygu yn cymryd hyd yn oed mwy o amser. Rydym felly am roi’r safle ar waith wrth i ni fynd drwy’r broses ddylunio, cynllunio a datblygu.

Betula pendula 02 multistem

Yn unol â mentrau parhaus y Cyngor i gefnogi pob datblygiad i fod mor wyrdd â phosibl, mae dyluniad y datblygiad yn canolbwyntio ar sicrhau buddion cynaliadwy i’r trigolion, y gymuned leol a’r ddinas. Bydd y datblygiad hefyd yn uchafu buddion bioamrywiaeth.

Rydym wedi penodi tîm arobryn rhyngwladol o benseiri tirwedd, Cameo and Partners. Rydym hefyd wedi ffurfio perthynas waith ffurfiol bwysig gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sy’n gweithio gyda ni a Cameo i ddylunio’r cynllun tirlunio, gan gymryd gofal mawr wrth ddewis rhywogaethau priodol a chreu trefn reoli gadarn i sicrhau y bydd y tirlunio yn parhau yn yr hinsawdd wlyb, gwyntog a hallt ar lan y dŵr.