Defnyddiau Cyfamser
Rydym am ddechrau rhoi’r safle hir segur hwn ar waith yn ystod y broses gynllunio ac adeiladu, a fydd yn para am rai blynyddoedd ar draws y safle cyfan. Rydym felly yn cynnig rhai ‘Defnyddiau Cyfamser’ i animeiddio’r rhannau o’r safle na fyddant yn cael eu datblygu yn y tymor byr agos. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno mewn dau gam.
Gall y Defnyddiau Cyfamser hyn newid dros gyfnod o amser a rhoi’r cyfle i ni barhau i adnewyddu’r cynnig i bobl leol. Mae cyfle i gael gweithredwyr lleol a thymhorol hefyd.


- Cam 1 – canolfan tenis padel gyda chwrt bwyd cysylltiedig a seddau awyr agored. Bydd cais cynllunio ar gyfer y cam hwn yn cael ei gyflwyno ym mis Mai 2024.
- Cam 2 - amrywiaeth fwy cymysg o ddefnyddiau dros dro gan gynnwys golff mini o bosibl, pêl-droed 5 bob ochr, canolfan arddio a chaffi, man chwarae i blant, campfa awyr agored, man sgrinio ac ati. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach maes o law.